Newyddion / News
189 items found, showing page 9 of 16

Trafnidiaeth Cymru yn lansio cyhoeddiadau yn y Gymraeg
Gall Trafnidiaeth Cymru gadarnhau fod system wybodaeth Gymraeg wedi cael ei gosod mewn mwy na 170 o orsafoedd Cymru.

Cyfleoedd i staff Flybe gyda Trafnidiaeth Cymru
Mae’r miloedd o staff mae cwymp cwmni awyrennau Flybe wedi effeithio arnynt yn cael eu hannog i edrych ar swyddi gwag gyda Trafnidiaeth Cymru a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Gwobr Cyflawniad Oes i Gynghorydd Trafnidiaeth Cymru
Cyflwynwyd ‘Gwobr Cyflawniad Oes’ i Chris Gibb, Cynghorydd Strategol gyda Trafnidiaeth Cymru, yng Ngwobrau Chwiban Aur 2020 Sefydliad y Gweithredwyr Rheilffyrdd.

Adduned Trafnidiaeth Cymru i’r lluoedd arfog
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi addo helpu’r gymuned lluoedd arfog trwy lofnodi ymrwymiad i anrhydeddu Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Camerâu Corff Newydd i Staff Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio treial camerâu corff er mwyn gwella diogelwch eu cwsmeriaid a’u staff. Bydd staff rheilffyrdd penodol gan gynnwys goruchwylwyr a staff gorsafoedd yn cael y Camerâu Corff modern a fydd yn helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Trafnidiaeth Cymru yn annog deiliaid cardiau i beidio ag oedi cyn gwneud cais am gerdyn teithio newydd
Mae Trafnidiaeth Cymru yn apelio ar ddeiliaid cardiau sydd heb wneud cais am eu cerdyn teithio newydd eto, ac yn pwysleisio pwysigrwydd gwneud cais am gerdyn newydd cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn mwynhau manteision teithio rhatach.

Lansio ap Iaith Arwyddion ar draws Trafnidiaeth Cymru
MAE ap newydd i helpu cwsmeriaid o’r gymuned fyddar i gyfathrebu wedi cael ei lansio ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru yr wythnos yma

Fel newydd! Gwaith glanhau gorsafoedd yn drylwyr yn tynnu tua’r terfyn
Bydd MWY NA 100 o orsafoedd yn cael eu glanhau’n drylwyr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth wrth i Trafnidiaeth Cymru fwrw ymlaen â’i Weledigaeth Gwella Gorsafoedd gwerth £194m.

Dechrau adeiladu Canolfan Reoli’r Metro
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig arall wrth i waith adeiladu ddechrau ar eu Depo Metro gwerth £100 miliwn yn Ffynnon Taf.

Trafnidiaeth Cymru yn adnewyddu dros hanner miliwn o gardiau bws
Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod wedi adnewyddu dros hanner miliwn o gardiau bws rhatach.

Gwaith yn dechrau ar orsaf newydd yn Bow Street
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau gweithio ar yr orsaf reilffordd £8 miliwn newydd yn Bow Street yng Ngheredigion.

Labordy Trafnidiaeth Cymru: arloesi i ysgogi’r broses o drawsnewid rhwydwaith rheilffyrdd Cymru
Flwyddyn ar ôl cymryd drosodd gwaith gweithredu a chynnal a chadw’r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru ar ran Trafnidiaeth Cymru (TrC), sefydlodd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC Labordy Trafnidiaeth Cymru. Cynllun arloesi agored er budd teithwyr yng Nghymru.