Newyddion / News
189 items found, showing page 4 of 16

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i gwsmeriaid fod yn gyfrifol
Mae gan Trafnidiaeth Cymru neges glir i’r cyhoedd sy’n teithio’r penwythnos hwn; mae’n eu hannog i ddilyn yr holl gyngor teithio’n saffach ac i ymddwyn yn gyfrifol er mwyn Cadw Cymru’n Ddiogel.

Trafnidiaeth Cymru a Gyrfa Cymru’n cynnal digwyddiadau rhithwir ‘Swyddi ym maes Trafnidiaeth’
Bydd partneriaeth newydd gyffrous rhwng Trafnidiaeth Cymru a Gyrfa Cymru’n tynnu sylw disgyblion ysgol Cymru at gyfleoedd yn y sector trafnidiaeth.

Dod o hyd i le er mwyn cadw pellter cymdeithasol ar drenau gyda Gwiriwr Capasiti newydd
Mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio Gwiriwr Capasiti, i helpu cwsmeriaid i wirio cyn teithio pa drenau allai fod â’r mwyaf o le er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol yn sgil COVID-19.

Cyfyngiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr i barhau
Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa teithwyr y bydd cyfyngiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn dal i fod yn eu lle pan ddaw’r ‘cyfnod atal byr’ cenedlaethol i ben ddydd Llun (9 Tachwedd).

Gwasanaeth bws fflecsi wedi cyrraedd Dyffryn Conwy
Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ati i ehangu gwasanaeth bws fflecsi i ran arall o Gymru.

Gwaith ar gledrau’r Metro yn parhau yn y Cymoedd
Bu cam arall ymlaen yn y gwaith ar Fetro De Cymru y penwythnos diwethaf gyda gwaith trawsnewid ar y cledrau rheilffordd ar Linell Aberdâr.

Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi lansio Cerdyn Rheilffordd i Gynfilwyr
Heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi lansiad Cerdyn Rheilffordd newydd i Gynfilwyr (dydd Iau 5 Tachwedd) i gydnabod y rhai a fu’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Labordy Trafnidiaeth Cymru yn barod i arddangos yr ail gohort o arloeswyr technolegol
Mae’r rhaglen arloesi fwyaf blaenllaw yng Nghymru ar gyfer y rheilffyrdd ar fin gweld yr ail griw o ymgeiswyr creadigol ac uchelgeisiol yn cyflwyno eu syniadau.

Atgyfnerthu'r Neges am Deithio Hanfodol ar gyfer digwyddiadau tymhorol yng Nghymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgoffa'r cyhoedd yng Nghymru mai dim ond siwrneiau hanfodol mae modd eu gwneud yn ystod y cyfnod atal byr, cyn digwyddiadau chwaraeon dros y penwythnos, ac yna Calan Gaeaf a noson tân gwyllt.

Un o gyn-weithwyr y rheilffyrdd yn hel atgofion gyda Thrafnidiaeth Cymru ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon
Mae dyn 91 oed o Gaerdydd, a ddaeth i Gymru fel rhan o genhedlaeth Windrush, wedi datgelu gwybodaeth ddifyr am y 31 mlynedd a dreuliodd yn gweithio ar y rheilffordd.

Dechrau adeiladu Canolfan Rheoli’r Metro yn Ffynnon Taf!
Mae Trafnidiaeth Cymru yn parhau i symud ymlaen i ddatblygu Metro De Cymru ac, yn ddiweddar, gosododd y ffrâm ddur ar gyfer y Ganolfan Reoli newydd yn Ffynnon Taf.

Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu’r neges am deithio hanfodol yn unig yng Nghymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn atgyfnerthu neges Llywodraeth Cymru i’r cyhoedd cyn i’r cyfyngiadau symud cenedlaethol - ‘y cyfnod atal byr’ - ddod i rym, gan annog pobl i wneud teithiau hanfodol yn unig.