Newyddion / News
144 items found, showing page 10 of 12

Buddsoddi £194 miliwn yng Ngorsafoedd Rheilffordd Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y cynllun buddsoddi gwerth £194 miliwn i wella’r 247 o orsafoedd rheilffordd sydd yng Nghymru.

DIWEDDARAF: Trafnidiaeth Cymru yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael gafael ar ffurflenni cais am gardiau bws
Ar 11 Medi 2019, roedd cynghorau ledled Cymru a Thrafnidiaeth Cymru wedi lansio un o’r rhaglenni mwyaf i ymgysylltu â’r cyhoedd, gyda’r nod o adnewyddu’r holl gardiau bws gwyrdd ledled Cymru. Mae nifer fawr iawn wedi ymateb ac mae miloedd o ddefnyddwyr bysiau eisiau gwneud cais am eu cardiau newydd ar unwaith.

Gorsaf yn Sir Gaerfyrddin yn y ras am un o brif wobrau’r diwydiant rheilffyrdd
MAE Gorsaf Llanymddyfri wedi cyrraedd rhestr fer ‘gorsaf y flwyddyn’ yng Ngwobrau Rheilffyrdd Cenedlaethol 2019

Gwahoddiad Trafnidiaeth Cymru i Gymunedau’r Cymoedd
Mae Trafnidiaeth Cymru a Thasglu’r Cymoedd yn cynnal cyfres o sioeau teithiol mewn lleoliadau allweddol yn ne Cymru fel y gall cymunedau lleol gael gwybod am welliannau sy’n cael eu gwneud i’w rhwydwaith trafnidiaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

Trenau ychwanegol yn cyrraedd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn y trên Turbostar Dosbarth 170 cyntaf gan Greater Anglia.

Calon Cymru: Clod i Reilffyrdd Cymunedol
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol rheilffordd Calon Cymru wedi derbyn achrediad swyddogol gan yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.

TrC yn croesawu cerdyn rheilffordd 16-17 Saver
Mae Trafnidiaeth Cymru yn croesawu cyhoeddiad yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth bod cerdyn rheilffordd 16-17 Saver yn mynd i gael ei lansio o fis Medi 2019 ac mae wedi ymrwymo i ddarparu mwy o docynnau am bris gostyngol i bobl ifanc, o fis Ionawr 2020 ymlaen.

Lein y Cambrian yn Nghymru wedi ei henwi fel un o reilffyrdd mwyaf golygfaol y byd
Mae Lein y Cambrian wedi ei dewis i ymddangos mewn dwy raglen ddogfen ar gyfer y teledu sy’n rhoi sylw i deithiau rheilffordd mwyaf golygfaol y byd, yn ôl cyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru.

Ailagor y rheilffordd i Ogledd Llanrwst! Trafnidiaeth Cymru yn creu partneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol, wrth i’r gymuned baratoi i groesawu miloedd o ymwelwyr
BYDD dros 150,000 o bobl yn ymweld â Llanrwst wythnos nesaf ac mae’r gymuned yn paratoi i gynnal un o ddigwyddiadau pwysicaf y flwyddyn yng Nghymru.

Atgoffa pobl sy’n teithio i rasys Caer am wirio manylion eu taith cyn i’r rheilffordd gau
Mae teithwyr sy’n teithio ar y trên i Rasys Caer o Leeds a Manceinion dros y ddau benwythnos nesaf yn cael eu hannog i gynllunio ymlaen llaw, gan fod gwaith atgyweirio ar raddfa fawr yn mynd rhagddo ar gyffordd prif linell Arfordir y Gorllewin.

Cofio’r rhai a laddwyd; ymgyrch gyrrwr trên o Gaerfyrddin i anrhydeddu’r dynion rheilffordd a fu farw yn y Rhyfel Mawr
Mae plac wedi cael ei ddadorchuddio yng ngorsaf Caerfyrddin i goffáu can mlynedd ers i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben y llynedd, gan gofio’r dynion rheilffordd dewr a oedd yn gysylltiedig â GWR Caerfyrddin, a aberthodd eu bywydau dros eu gwlad ar faes y gad.

Cwsmeriaid i elwa ar fuddsoddiad gwerth £40 miliwn gan Trafnidiaeth Cymru yn ei fflyd
O’r wythnos hon ymlaen, bydd cwsmeriaid yn cael dechrau mwynhau manteision fel mannau gwefru ac USB, gwell seddi a thoiledau newydd sbon ar y trenau fel rhan o fuddsoddiad anferth gan Trafnidiaeth Cymru mewn trenau pellter hir.